Read in English here.

Buddugoliaeth! Gyda chymorth IWW Cymru, mae gweithiwr bwyd cyflym wedi torri trwy fynydd o fiwrocratiaeth masnachfraint, gan sicrhau nad yw ei phensiwn yn y fantol.

Fe wnaeth un o’n haelodau yng Nghaerfyrddin sylweddoli bod masnachfraint y cwmni cadwyn bwyd cyflym roedd hi’n gweithio iddo wedi rhoi’r gorau i dalu ei chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dylai ei phensiwn ddechrau ym mis Rhagfyr, felly pe na nai’r cwmni yn mynd ati i gywiro’r mater yn sydyn byddai diffyg i’w thaliadau pensiwn am weddill ei bywyd. Er iddi fynnu ei fod yn fater brys dywedodd CThEM na fyddent yn gallu delio â’r mater nes mis Hydref, ar y cynharaf.

Wedi iddi ddweud wrth y masnachfraint am y sefyllfa, gan esbonio’r gyfraith a’r holl fanylion treth cywir fe wnaeth y lleoliad fwrw’r baich sawl gwaith cyn honni bod y gweithiwr yn anghywir! Dywedwyd wrthi ei bod hi o “Oed Pensiwn y Wladwriaeth”, er iddi ddanfon atynt gadarnhad gan CThEM nad oedd hi!

Gyda chymorth IWW, fe wnaeth ein haelod ni dorri trwy mynydd o fiwrocratiaeth y masnachfraint, a ildiodd yn y pen draw ac yn datrys y broblem ar hyn o bryd!

Mae nifer o weithwyr yn wynebu problemau tebyg gan nad oes undeb i’w cefnogi yn eu gweithle, neu am nad yw’r undeb yn ymateb i broblemau. Rydyn ni’n cefnogi’n holl aelodau i fwrw’n ôl, ac yn annog gweithwyr i uno â’i gilydd er mwyn ennill grym yn y gweithle! Beth amdani? Ymunwch â IWW heddiw!

Mae’n haelod ni bellach yn creu pamffled i weithwyr ddysgu am hawliau yn ymwneud â’r gyflogres a threth, ac yn fwy na pharod i fod o gymorth i unrhyw un â chwestiynau.

Danfonwch neges at: cymruwales [at] iww [dot] org [dot] uk.