Hanes yr IWW

Mae’r IWW (Industrial Workers of the World) yn undeb llafur gyda hanes anrhydeddus a dewr. Ffurfiwyd yn America dros gan mlynedd yn ôl ble roedd ganddi filoedd o aelodau a chanodd o filoedd o gefnogwyr ar ddecharu’r 20fed ganrif.

Er ini gael ein dysgu bod yr USA yn wlad democrataidd a rhydd, cafodd aelodau yr IWW eu gormesu, banio a llawr ohonynt eu lladd gan berchnogion ffactris a’r llywodraeth oedd yn benderfynol o stopio gweithwyr ennill cyflogau teg a hawliau.

Enillodd yr IWW llawer a chafodd dylanwad mwy byth, gyda eu syniadau, fel cael diwrnod gweithio 8 awr, yn dod yn gyffredin.

Yn bell cyn i arweiniad Martin Luther KIng, bu’r IWW un o’r ychydig o fudiadau i uno aelodau o bob lliw a chefndir ar adeg pan roedd hiliaeth, rhagfarn a chasineb yn rhannu pobol ar draws America. Chwaraeodd ferched rhan amlwg iawn yn holl frwydrau’r undeb, yn hir o flaen yr oes fodern. Cyn i ferched ennill yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau roedd llawer o brif arweinwyr yr IWW yn ferched.
Daeth lawer o ganeuon o frwydrau’r undeb, mae delwedd rhamantus wedi tyfu o amgylch yr ‘Wobblies’ (enw ar aelodau yr IWW). Mae hefyd llawer o eiriau wedi dod i’r Saesneg o hanes yr IWW.
Mae pobol Cymru yn falch o hanes ein brwydrau ni. Cofiwn chwarelwyr y gogledd ac wrth gwrs glowyr de Cymru a fu o flaen o gad yn ymladd gormes a thlodi – hefyd y cannoedd y fu flaen llysoedd yn dilyn protestiadau i fynnu hawliau i’r Gymraeg. Ond heddiw gofynnwn sut gorau i amddiffyn hawliau gweithwyr a chymunedau yn wyneb globaleddio a gyda nifer bach o weithwyr yn ran o unrhyw undeb neu’n diddori mewn gwleidyddiaeth.

Mae yr IWW yn ddal i fodoli heddiw ac yn araf deg mae sylw yn troi i’w syniadau blaengar a chyffroes fel esiampl ffres ar gyfer ail-adeiladu undebaeth ar gyfer yr 21eg canrif.

Mae’r IWW yn credu mewn ‘Un Undeb Mawr’ – ar gyfer pawb (does dim rhaid fod yn weithiwr ‘diwydiannol’). Gwirfoddolwyr sy’n cynnal yr undeb – nid bosys mawr, a does dim cysylltiad gyda phleidiau gwleidyddol.