Ar ddydd Sadwrn y 16eg mi ddaliodd aelodau IWW Cymru biced gwybodaeth tu allan i gaffi yn Nolgellau, Gwynedd.

Roedd y perchnogion wedi anwybyddu sawl ofyniad gan gyn-weithiwr am ei P45. Roedd angen y P45 ar y gweithiwr ar frys er mwyn gallu hawlio benefits yn ei wlad enedigol. Roedd hyn yn cael effaith go iawn negyddol ar ei fywyd.

Penderfynodd y gweithiwr i siarad a’i undeb, yr IWW. Mi wnaeth y cyflogwr addo i helpu “ar ôl lockdown” ac yna anwybyddodd ein llythyrau a Chais Gwrthrych am Wybodaeth. Penderfyonon ni ymweld â’r caffi. Daliodd aelodau o’r IWW biced gwybodaeth, gan roi gwybod i gwsmeriaid posib am y sefyllfa a gofyn iddynt beidio â mynd i’r caffi nes i’r anghytundeb cael ei setlo. Yn fuan mi ddewisodd y cyflogwr setlo a darparu P45 i’r gweithiwr.

Yn rhy aml mae cyflogwyr yn meddwl y gallant gamdrin gweithwyr, yn enwedig gweithwyr o dramor. Mae’r IWW yn undeb ar lawr gwlad sy’n credu mewn solidariaeth a sefyll yn erbyn y bosys. Gyda’n gilydd fe allwn ennill!

MAE ANAF I UN YN ANAF I BAWB