To read this page in English, click here.

 

Ar Ddydd Sadwrn, 14eg o Hydref ymunodd aelodau cangen IWW Cymru mewn undod ag undebau llafur eraill a chwithwyr o bob stribed i gofio’r bobl Cymreig a deithiodd i Sbaen i ymuno â’r Brigadau Rhyngwladol yn y frwydr yn erbyn Ffasgiaeth.

Heb syndod, aeth nifer o Wobblies i Sbaen i ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen. Fe wnaeth nifer ohonynt wasanaethu gyda’r Confederación Nacional del Trabajo (CNT), tra ymddengys gwasanaethoedd y rhan fwyaf yn y Brigadau Rhyngwladol. Enillodd Wobblies fel Mike Raddock, Ray Steele, golygydd dyfodol papur yr ‘Industrial Worker’ , Pat Read, enw da fel rhai o’r milwyr gorau yn y 15fed Frigâd Ryngwladol. “(http://libcom.org/history/iww-members-who-fought -Spanish-civil-war)”

 

 

Trefnwyd y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Coffa’r Brigadau Rhyngwladol, pryd gosodwyd blodau ar y gofeb yng Ngerddi Alexandra, Caerdydd.

Rhoddwyd nifer o areithiau i’w coffáu gan y rhai oedd yn bresennol, gan gynnwys cyfrif calonogol o farwolaeth un Cymro a waneth ymladd yn erbyn lluoedd Franco oddi wrth un o’i ddisgynyddion.

Darllenwyd cerddi a gyfansoddwyd gan aelodau Cymreig y Brigadau Rhyngwladol gyda’r Côr Cochion Caerdydd a wnaeth ddarparu corws rhyfeddol o ganeuon Asgell-Chwith a ganwyd yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg!

 

 

Croesawyd rhandaliad y Gangen Aelodau Cyffredinol IWW Cymru ar y diwrnod gyda theimlad o undod go iawn, ynghyd â’r gydnabyddiaeth, er bod y frwydr yn erbyn Franco bellach yn hanes, bod y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn ei ffurfiau niferus yn parhau lle mae gan pawb ohonom rhan i’w chwarae!

 

 

Dros yr Un Undeb Mawr!