You can read this statement in English here.
Mae Cangen Cymru yr IWW yn sefyll mewn solidariaeth â’r protestiadau diweddar yng Nghaerdydd, Abertawe a thu hwnt yn erbyn hiliaeth, trais yr heddlu a thrais patriarchaidd.
Cynhaliwyd y protestiadau cyntaf ym mis Ionawr am Mohamud Hassan, dyn ifanc a bu farw o anafiadau difrifol yn dilyn ei ryddhad o ddalfa Heddlu De Cymru. Fis yn hwyrach, bu farw Mouayed Bashir wrth i Heddlu Gwent ei ddal yn ei gartref yng Nghasnewydd; cynhaliwyd protestiadau pellach am Mouayed a Mohamud a bywydau Du ym mhobman. Mae’r protestiadau hefyd wedi mynnu rhyddid i Siyanda Mngaza, fenyw Ddu ifanc o Gymru a garcharwyd llynedd wedi iddi amddiffyn ei hun o ymosodiad hiliol.
Yn dilyn marwolaeth Sarah Everard, a siarsio aelod o Heddlu Metropolitan Llundain a amheuir o’i herwgipio a’i lladd, cynhaliwyd gwylfeydd ar draws Cymru i gofio’r sawl a laddwyd gan drais patriarchaidd. Cafwyd y protestiadau diweddaraf, a gynhaliwyd tu allan i orsafoedd heddlu yng Nghaerdydd ac Abertawe, eu galw am Mohamud, am Mouayed, am Sarah, ac hefyd am Christopher Kapessa, Wenjing Xu a Shukri Abdi.
Er gwaetha bygythiadau o dan gyfreithiau argyfwng Covid, mae’r protestwyr wedi dal eu tir. Pan gafodd trefnwr yng Nghaerdydd ddirwy, godwyd arian cyfatebol arlein mewn ychydig oriau. Pan ganslwyd gwylfeydd yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd oherwydd bygythiadau o’r heddlu, gododbrotestiadau answyddogol yn eu lle. Mae’r protestiadau diweddarach wedi sefyll, yn naturiol, yn ey mesur plismona newydd sydd yn bygwth yr hawl i brotestio a hawliau cymunedau teithwyr. Cafwyd gwrthdystiadau #Killthebill ym Mangor a Wrecsam yn ogystal.
Bu aelodau Cangen yn bresennol ar y strydoedd, ac mi fyddwn yn parhau i weithredu mewn solidariaeth a’r protestiadau tra’n cefnogi eu hawtonomi. Fel undeb mae’r IWW ers ei sefydlu wedi cymryd rhan mewn brwydrau gwrth-hiliol ac wedi brwydro dros y rhyddid i ymgynnull. Mae gennym weithwyr carcharedig yn ein rhengau ac rydym yn brwydro yn erbyn y diwydiant carchardai fel rhan o’r frwydr am well amodau i bob gweithiwr. Mae’r protestiadau yma yn Ne Cymru, fel gwrthryfel yr Haf yn yr UDA a’r mudiad End SARS yn Nigeria yn cynnig ysbrydoliaeth, nid yn unig i’r frwydr yn erbyn goruchafiaeth wen ond i’r dosbarth gweithiol cyfan. Rydym yn galw ar Gydweithwyr i ystyried sut mae cyfrannu yn gadarn i’r brwydrau a’u hymestyn i’r gweithle a’n bywydau beunyddiol.
Mae Anaf i Un yn Anaf i Bawb!