To read this post in English please click here

Rydym yn galw am gefnogaeth a unoliaeth i gymrodor da ac ymgyrchydd diflino sydd yn y cwrt am weithredu’n uniongyrchol yn erbyn Ffair Arfau Caerdydd. Ni all hon sefyll yn ddiymadferth tra bod y sawl sydd yn prynu a gwertu arfau yn pellhau eu elw gan farchnata ladd ar raddfa ddiwydianol. Yn lle derbyn y sefyllfa fe dewisiodd hi i frwydro nol a gwneud popeth yn ei gallu i ymyrryd ar waith y sawl sydd yn elwa o’r diwydiant arfau. Y mae hon yn glir iawn bod ei gweithredoedd yn angenrheidiol i atal troseddau gwaeth ond fe wnaeth y barnwr benderfynnu bod y fath amddiffyniad ddim i’w glywed. Nid ydynt yn barod i ddefnyddio’r llysoedd i rhoi y diwydiant arfau yn y doc. Nawr y mae i’n gwynebu carchar tra bo’r wladwriaeth yn ceisio gwneud esiampl ohoni a dysgu gwers i ni i gyd. Mae’n hanfodol ein bod yn cyd-sefyll. Ymunwc y brotest i ddangos nad ydi hi ar pen ei hunain Dewch a banneri, placardiau a swn. Unoliaeth yw ein harf ni ac ein amddiffyniad pennaf.

Cynhalwyd yr “Defence Procurement, Research, Technology and Exportability” (DPRTE) yn arena y Motorpoint ar y 28fed o Fawrth y flwyddyn hon. Mae’n gyfle i’r diwydiant arfau a chynryciolwyr o’r llywodraeth gynnal eu diwydiant ffiaidd, yn hwyluso diwydiant sydd yn arfu gladwriaethau sydd yn lladd eu pobl gyda’r teclynau diweddaraf ar gyfer gorthwm a rhyfel. Cafodd y ffair arfau ei orfodi o Fryste yn 2014 ar ol protestidau a gweithredoedd chwyrn a mae ymgyrchwyr yng Ngaerdydd a thu hwnt yn ceisio gwneud yr un peth. Ymunwch a’r ymgyrch i gau’r ffair arfau yma y flwyddyn nesaf!

Protest Unoliaeth

Llys y Goron Caerdydd

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3PG
Dydd Llun y 23ydd o Hydref 2pm