To read this page in English click here.

Dros yr Hydref bydd ‘Campaign to Fight Toxic Prisons’ o’r UDA yn teithio’r DU gyda Community Action on Prison Expansion. Mae’n bleser i IWW Cymru datgan ein bod yn cynnal rhai o’r digwyddiad ar hyd Dde Cymru!

Ledled y byd mae carchardai yn niwediol yn gymdeithasol ac ecolegol. Bu pobl gyffredin o’r UDA yn trefnu gwrthwynebu carcharu torfol a difrod amgylcheddol fel ei gilydd, gan lwyddo i ohirio adeiladu’r unig garchar ffederal am dros ddwy flynedd!

Trwy drefnu ar lawr gwlad, dadlau a gweithredu’n uniongyrchol maen nhw wedi herio’r system garchardai, system sy’n rhoi carcharorion mewn amodau amgylcheddol peryglus, ac sydd hefyd yn ergyd i gymunedau ac ecosystemau cyfagos, wrth eu hadeiladu a’u gweithredu.

Dewch i ddysgu am eu strategaeth a’u tactegau, yn ogystal ag am y brwydrau ehangach i ddymchwel y carchardai, gwrth-hiliaeth, y frwydr ddosbarth a chyfiawnder amgylcheddol.

Yn dilyn hyn rhennir gwybodaeth am wrthwynebiad i’r chwech arch-garchar newydd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys yr arch-garchar newydd sydd yncael ei gynllunio ar gyfer Port Talbot. Cynllunnir y carchardai yma yn y DU ar gyfer safleoedd gwenwynig, rhai’n cynnwys llygredd ymbelydrol a llygredd asbestos, a bydd cynefinoedd anifeiliaid yn cael eu dinistrio ar bob safle yn ogystal.

Eisiau dysgu mwy? Darllenwch yr erthygl wych yma ar wefan yr Empty Cages Collective!

 

Digwyddiadau:

Caerdydd 29ain o Fedi 2017

Port Talbot 30ain o Fedi 2017

  • 10.30am-12.30pm
  • Aberavon Beach Hotel, SA12 6QP
  • Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/116023012410416/
  • Nodwch: gan fod cymaint o ddiddordeb cymunedol mewn (gwrthwynebu’r) cynlluniau am garchar yn Port Talbot mae siawns fydd y digwyddiad dan ei sang, felly os allwch gysylltu / rhoi wybod ar y digwyddiad Facebook yn gynnar gallwn sicrhau bod gennym ystafell digonnol.

Abertawe 30ain o Fedi 2017