Bydd yn rhaid i ofalwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru dalu trethi ar y £500 sydd wedi ei addo iddynt gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd manylion y taliad ddechrau Mai ac ar y pryd fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, annog Llywodraeth y DU a CaThEM i “wneud eithriad o dan yr amodau eithriadol yma”. Er hynny, mae’r alwad honno wedi ei hanwybyddu a chyhoeddwyd y bydd yn rhaid i weithwyr gofal dalu trethi arno a datgan y taliad un-tro o £500 fel incwm.
Mae’r cynllun yn berthnasol i 64,000 o weithwyr yng Nghymru, ac roedd wedi ei fwriadu i fod yn arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad o ymroddiad gweithwyr gofal sydd wedi parhau i ofalu am bobl fregus, gan roi eu hunain mewn perygl. Mae’r cynllun yn berthnasol i bawb sy’n darparu gofal bersonol, pa unai ydych chi’n gweithio’n llawn amser yn rhan amser neu ar gytundeb sero awr.
Mae nifer o oblygiadau i Lywodraeth Cymru eu hystyried os yw’r taliad yn cael ei ystyried incwm trethadwy, ac felly i gyllid a gweithwyr gofal yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried a fyddan nhw’n ychwanegu at y taliad er mwyn i bobl dderbyn y swm llawn, fydd yn wariant sylweddol o incwm Cymru. Fel arall bydd gweithwyr yn wynebu colli rhan sylweddol o’u bonws.
Yn ychwanegol, gall fod goblygiadau i fudd-daliadau gwaith, fel credydau treth a Chredyd Cynhwysol, os bydd disgwyl i bobl ddatgan yr arian fel incwm trethadwy. Mae rhan helaeth ein gweithwyr gofal yn gwneud gwaith sy’n gofyn sgiliau arbennig, sy’n gofyn llawer ohonynt ac yn waith â thâl isel. Yn aml maent yn gweithio’n rhan amser neu ar gytundeb sero awr. Byddai £500 ychwanegol yn swm arwyddocaol iddynt, ond, byddai talu treth arno a’i ddatgan yn incwm trethadwy yn golygu mai yn ôl at y trysorlys yn Llundain fydd yr arian yn mynd.
Er iddo gael ei groesawu fel arwydd o werthfawrogiad o waith gofal yn y lle cyntaf, gwaith sydd ag enw drwg am nad yw’n cael ei werthfawrogi nac yn talu’n dda, bellach mae’n rhywbeth sydd o fudd i’r trysorlys yn hytrach na Chymru a gweithwyr Cymru.