Mae cangen Cymru/Wales Undeb Gweithwyr y Byd yn datgan ein bod yn cyd-sefyll gydag Imam Sis a’r holl gymrodyr sydd yn ymprydio ar y cyd gydag AS Cwrdaidd yr HPD, Leyla Güven, er mwyn dod â charchariad ymynysol Abdullah Öcalan i ben.

Mae carchariad unigol yn cael ei ystyried yn ddull o arteithio, ac yn un y bu raid i Öcalan ei oddef ers cael ei arestio yn 1999. Ni chaniatawyd ymweliadau iddo gan ei gyfreithwyr ers 2011. Yn ôl pob tebyg pwysau gan ymprydwyr oedd wrth wraidd caniatáu i Abdullah Öcalan weld ei frawd, Mehmet, ddydd Sul y 13eg o Ionawr – dyna’r tro cyntaf iddo gael cysylltu ag aelod o’i deulu ers tair blynedd. Er hynny, yn dilyn ymweliad deng munud o hyd, mae Öcalan yn dal i gael ei garcharu ar wahân, ac mae disgwyl i’r ymprydwyr ddal ati.

Mae Senedd Gwrdaidd Cymru yn mynnu bod:

1 – Caniatáu i’r Pwyllgor Atal Artaith (CPT) ymweld â Charchar Imrali er mwyn cadw golwg ar amodau carchariad Abdullah Öcalan.
2 – Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECHR) yn gweithredu yn erbyn ymyriadau Llywodraeth Twrci ar hawliau dynol Öcalan.
3 – Llywodraeth Cymru yn galw ar y CPT a’r ECHR i weithredu.
4 – Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll unrhyw weithredu milwrol gan y Wladwriaeth Dwrcaidd, neu sydd wedi’i gynllunio ganddo, ar gyfer Ffederasiwn Ddemocrataidd Gogledd Syria, sydd ymysg y rhanbarthau mwyaf democrataidd nid yn unig yn y Dwyrain Canol ond yn rhyngwladol.

Mae Abdullah Öcalan yn damcaniaethwr gwleidyddol chwyldroadol a fu’n brwydro ac ymgyrchu dros ryddid i Gwrdistan am dros ddeugain mlynedd. Ers ei garcharu ym 1999 mae wedi datblygu strategaeth i ryddhau Cwrdistan sydd y tu hwnt i batrwm traddodiadol cenedl-Wladwriaeth, drwy Gynghreiriaeth Ddemoctrataidd. Mae hon yn ddamcaniaeth dan ddemocratiaeth-uniongyrchol, sy’n ymwneud â sefydlu strwythurau a sefydliadau gwleidyddol newydd er mwyn i rym ddod o lawr gwlad; gan gynghorau lleol a chynghreiriau i gyrff ffederal ehangach. Mae’r strwythurau hyn yn galluogi gweithredu ysgwydd yn ysgwydd dros werthoedd cyffredin fel rhyddid merched, iechyd amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ogystal â chynnig cefnogaeth wleidyddol a strwythurol i leiafrifoedd ethnig a chrefyddol.

Yn dilyn brwydr dros Kobane yn 2014, pan frwydrodd y People’s Protection Units (YPG/YPJ) gyda Daesh/ISIS, mae dinasoedd, trefi a phentrefi yng ngogledd Syria wedi mabwysiadu Cynghreiriaeth Ddemocrataidd, a chreu’r corff gwleidyddol, Democratic Federation of Northern Syria, a’i amcan yw ceisio ymreolaeth raddol i’r Wladwriaeth Syriaidd, a galluogi tlodion a’r dosbarth gweithiol drwy strwythurau a sefydliadau gwleidyddol.

Mae dod â charchariad ymynysol Abdullah Öcalan i ben yn hanfodol i ddatrys y ‘Cwestiwn Cwrdaidd, i heddwch yn y Dwyrain Canol ac i weddill y byd. I fynd I’r afael â’r heriau sy’n ein wynebu ni i gyd yn ystod y ganrif hon, mae diogelwch a syniadau Abdullah Öcalan o bwys mawr.