Am yr IWW

Pam yr IWW?

Rydym yn undeb democrataidd ar lawr gwlad sy’n helpu i drefnu holl weithwyr ym mhob gweithle. Mae’r IWW yn wahanol i undebau llafur traddodiadol . Rydym yn credu bod gweithwyr yn cael mwy o lais os ydym yn cael ein trefnu o fewn ein diwydiannau ein hunain. Er enghraifft, dylai athrawon, glanhawyr ac ysgrifenyddion sy’n gweithio mewn ysgol yn cael eu dosbarthu fel gweithwyr addysg ac i gyd fod yn yr un undeb. Ar ben hynny, mae undebau mewn un diwydiant yn llawer cryfach os ydynt yn yr un sefydliad â’r holl undebau diwydiannol eraill. Ein nod yw gweld cymdeithas wedi’i ail-drefnu i gwrdd â buddiannau’r holl bobl, ac nid dim ond cyfranddalwyr a chorfforaethau.

NID ydym yn:

  • Llawn o fiwrocratiaeth myglyd neu’n gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol neu grŵp.
  • Dan arweiniad enillwyr cyflogau mawr sy’n gwneud cytundebau â phenaethiaid y tu ôl i’ch cefn.
  • Mynd i werthu gwasanaethau, yswiriant bywyd neu gardiau credyd i chi .

Rydym yn:

  • Dan arweiniad ein haelodaeth. Rydym yn gwneud yr holl benderfyniadau, ac rydym i gyd yn cael y gair olaf.
  • Ar gyfer uno’r holl weithwyr ar draws llafur, diwydiannau a gwledydd .
  • Gallu cynnig cefnogaeth ymarferol i aelodau yn eu gweithle .
  • Hyblyg fel eich bod yn dal yn aelod hyd yn oed pan fyddwch yn newid swydd neu gontract .

Ar gyfer pwy mae’r IWW?

Rydym ar gyfer POB gweithwyr nad oes ganddynt y bŵer i logi neu dddiswyddo. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithwyr sydd wedi ymddeol, myfyrwyr, y ddi-waith, y rhai sy’n gweithio rhan – amser, y rhai sy’n gweithio dros dro neu’r rhai sy’n gweithio yn y cartref. Mae croeso hefyd i weithwyr sy’n aelodau o undebau eraill.

 

Am wybodaeth ar gyfarfodydd a manylion cyswllt yr IWW yng Nghymru, ewch i dudalen cangen IWW Cymru.

Os hoffech ymuno â’r Un Undeb Mawr gallwch ddefnyddio ein ffurflen ymaelodi ar-lein.